Cyrsiau
Book Now
MANYLION Y CWRS

Gohebu ar Gred 17 (#RB17)

Pryd?

May / 10 / Mer  @   -  May / 10 / Mer  @ 

Ble?

Ty Oldfield Theatre Room, BBC Wales

Pris?

Free Event.

Cyswllt?

Anna-Wynne Roberts,
Email : [email protected]

Pryd:   Mai 10, 2017 Drwy’r Dydd

Lle:      Tŷ Oldfield, Ystafell Theatr, BBC Wales, Tŷ Darlledu, Ffordd Llantrisant, Llandaf, CF5 2YQ

Cost:    Am ddim

Cyswllt:  Anna Wynn Roberts 

Nodwch, er bod y digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim, rhaid i fynychwyr gofrestru er mwyn mynychu RB17

Newyddiadurwyr: 10am tan 2pm

Grwpiau cred: 11.30am tan 4pm

Fis Tachwedd y llynedd, daethom â newyddiadurwyr a chynrychiolwyr ynghyd o’r ystod o gredoau ac athroniaethau ledled Cymru am weithdy diwrnod ar lythrennedd crefyddol ac adrodd ar gred.

Ar 10 Mai, bydd BBC Wales yn cynnal digwyddiad pellach a fydd yn cynnwys sesiwn ar y cyd a chinio rhwydweithio i newyddiadurwyr a grwpiau cred er mwyn galluogi rhagor o amser ar gyfer trafodaeth a rhyngweithio.

Bydd gweithdy ar wahân i newyddiadurwyr yn y bore (gweler siaradwyr isod) ac yn y prynhawn bydd ein partneriaid yn y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol (C4CJ) yn cynnal sesiwn hyfforddi’r cyfryngau a chyfryngau cymdeithasol ar gyfer cynrychiolwyr grwpiau cred.

10.00am: Newyddiadurwyr yn cyrraedd

10.15am:   Sesiwn i Newyddiadurwyr yn unig:

                   Cymunedau Mwslimaidd – cysylltu â llawr gwlad

11.30am:  Cynrychiolwyr cyfryngau grwpiau cred yn cyrraedd. Egwyl i rwydweithio

12.00pm:  Dr Michael Munnik, Prifysgol Caerdydd yn cadeirio sesiwn

1pm:           Cinio rhwydweithio. Newyddiadurwyr yn gadael am 2pm

2-4pm:       Grwpiau cred yn unig:

                     Sesiwn hyfforddiant y cyfryngau a chyfryngau cymdeithasol gan C4CJ

Gweithdai:

10.15 tan 11.30: Sesiwn i newyddiadurwyr yn unig

Cymunedau Mwslimaidd: cysylltu â llawr gwlad Mae tri newyddiadurwr y BBC o gefndiroedd gwahanol yn rhoi eu cyngor ar wneud cysylltiadau ar lawr gwlad – waeth beth yw eich rhywedd, ethnigrwydd, crefydd neu sgiliau iaith.

Mae Sajid Iqbal yn uwch newyddiadurwr gohebu gyda BBC News yn Llundain. Cafodd ei eni yn Pacistan a daeth yn ohebydd ar gyfer prif bapur newydd Saesneg y wlad, Dawn, cyn symud yn 2001 i wasanaeth BBC Urdu yn Llundain. Yn 2016 cwblhaodd newyddiaduraeth ymchwiliol y tu ôl i gyfres BBC Radio 4, The Deobandis, ynglŷn â rhwydwaith Mosg mwyaf Prydain. Erbyn hyn mae’n gweithio fel arbenigwr ar faterion cymunedol y DU i BBC Newsgathering. Mae hefyd yn gymrawd gwadd yn Ysgol Economeg Llundain, Canolfan Astudiaeth Hawliau Dynol.

Mae Yasminara Khan yn newyddiadurwr gyda BBC Newsnight lle mae hi’n cynhyrchu trafodaethau ymatebol a chyfweliadau ar gyfer y rhaglen nosweithiol. Mae hi hefyd yn treulio llawer iawn o’i hamser yn ymchwilio straeon am faterion sy’n effeithio ar ferched Asiaidd ym Mhrydain. Yn 2016 cwblhaodd newyddiaduraeth ymchwiliol wrth gefn dau adroddiad ar sut y defnyddiwyd y system carennydd gwrywaidd De Asia o fewn y Blaid Lafur i rwystro ymdrechion gan rai merched Asiaidd o Brydain i sicrhau swyddi gwleidyddol. Yn 2015 ymchwiliodd stori am ‘wragedd fel caethweision”- sef merched o India a oedd yn cael eu cadw fel caethweision cartref gan eu gwŷr Asiaidd o Brydain. Enillodd ei gwaith Wobr Adroddiad Teledu’r Flwyddyn yn y Gwobrau Cyfryngau Asiaidd yn 2015 a 2016.

Mae Innes Bowen yn awdur Medina in Birmingham, Najaf in Brent: Inside British Islam, sef llyfr am y rhwydweithiau wrth wraidd mosgiau’r DU. Ysgrifennodd y llyfr wrth iddi weithio fel cynhyrchydd a golygydd rhaglenni materion cyfredol fel Analysis a More or Less. O fis Ebrill bydd Innes yn arwain gwaith ymchwiliol BBC Newsnight.

2pm – 4pm: Sesiwn grwpiau cred yn unig

Cyfryngau a hyfforddiant Cyfryngau Cymdeithasol

Emma Meese a Matthew Abbott o Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd yn rhoi cipolwg arbennig ar yr ystafell newyddion, sut mae’n gweithio a sut orau all cynrychiolwyr y cyfryngau o gymunedau cred ymgysylltu â’r cyfryngau. Bydd y sesiwn yn delio hefyd â’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r cyfryngau ac ysgrifennu datganiad i’r wasg effeithiol a fydd yn helpu i dynnu sylw at eich sefydliad.

Mae hwn yn ddigwyddiad sydd angen tocyn ond gallwn ei gynnig yn rhad ac am ddim oherwydd yr arian a gawn gan Lywodraeth Cymru, y BBC yn cynnal y digwyddiad ac yn darparu cinio a C4CJ yn cynnal y sesiwn hyfforddi yn y prynhawn.

Book Now

TIWTOR Y CWRS

Archebwch nawr

Lleoliad

Digwyddiadau Cynlluniedig

Trydar

NUJ Training Cymru Wales