Hyfforddiant
Gweld y Cyrsiau

Hyfforddiant

Mae’r cyrsiau yn agored i weithwyr proffesiynol nad ydynt yn aelodau undeb yn ogystal ag aelodau o undebau eraill, ond aelodau NUJ sy’n elwa ar y ffioedd isaf. Bydd rhywfaint o hyfforddiant yn cael ei gynnig am ddim i aelodau; mae gan aelodau’r NUJ sydd wedi cael eu diswyddo o fewn y 6 mis blaenorol hawl i gael dau ddiwrnod o hyfforddiant am ddim.

Nodwch: oherwydd ein bod yn cael cyllid gan Lywodraeth Cymru mae’r cyrsiau hyn ar gael i weithwyr proffesiynol sy’n byw a / neu’n gweithio yng Nghymru yn unig.

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i’r hyfforddiant sydd ei angen arnoch yn ein calendr, cysylltwch â ni i ddweud wrthym beth sydd ei angen arnoch a gallwn gynnal y cwrs hwnnw yn eich ardal os oes digon o alw. Gallwn hefyd ddarparu hyfforddiant pwrpasol yn y gweithle mewn sefydliadau cyfryngau ar gais.

Mae hyfforddiant NUJ yn Llundain yn sefydliad llawer mwy na ni, felly cymerwch olwg ar eu tudalen hyfforddi i weld beth sydd ganddynt i’w gynnig.

  • Twitter

NUJ Training Cymru Wales