Sylwch y bydd y cwrs hwn yn Gymraeg – Please note this course will be inWelsh
Mae’n eithaf bosib eich bod yn gwario’r rhan fwyaf o’ch amser yn creu cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, ond newyddion teledu yw’r modd mwyaf effeithiol o gyrraedd cynulleidfa mawr yng Nghymru.
Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn eich helpu i ddefnyddio pŵer newyddion teledu a radio i ddylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, rhanddeiliaid a’r cyhoedd.
Bydd y cwrs yn eich tywys trwy ddull strategol o ddatblygu cynllun a negeseuon, ymgysylltu â newyddiadurwyr, a pharatoi cynnwys i gael sylw effeithiol. Byddwn hefyd yn ymdrin â sut i gefnogi llefarwyr a rheoli risgiau, yn ogystal â gweithio’n ddwyieithog.
Ar gyfer pwy?
Gweithwyr proffesiynol ym maes cyfathrebu ac eraill sy’n gweithio ar ymgyrchoedd dielw sydd am sicrhau dylanwad gwleidyddol neu gyhoeddus gan ddefnyddio’r cyfryngau.
Beth fydda i’n ei ddysgu?
Erbyn diwedd y bore, byddwch yn:
• Deall sut y gall cyfryngau darlledu eich helpu i dylanwadu a chodi ymwybyddiaeth
• Dysgu’r hyn mae newyddiadurwyr darlledu yn chwilio amdano, a sut i ymgysylltu â nhw’n effeithiol
• Gwybod pa baratoadau y mae’n rhaid i chi eu gwneud i ennill sylw da a rheoli risgiau
Bydd y cwrs yn edrych yn benodol ar y cyd-destun Cymreig ac yn cynnwys ystyriaethau dwyieithog.
Bywgraffiad
Mae Richard Nosworthy yn Arbenigwr Cyfathrebu Llawrydd dwyieithog, gyda ffocws ar weithio i elusennau a sefydliadau dielw. Yn gyn newyddiadurwr a Gohebydd Iechyd yn newyddion ITV Cymru, bu Richard yn gweithio am 8 mlynedd yn WWF Cymru, lle daeth yn Bennaeth Cyfathrebu a rheolodd ymgyrchoedd a phrosiectau cyfathrebu eiriolaeth. Darganfyddwch fwy yn www.richardnosworthy.cymru