Croeso i Hyfforddiant NUJ Cymru
Bydd Rheolwr Prosiect a Chydlynydd Prosiect newydd yn cael eu penodi yn ystod yr wythnosau nesaf a rhoddir dyddiadau hyfforddi newydd yn eich calendr cyn gynted â phosibl.
Bydd Hyfforddiant NUJ Cymru yn parhau i gynnig rhaglen o gyrsiau ymarferol, gyda chymhorthdal, tan fis Mawrth 2019 diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru. Gallwn gynnig cyrsiau am gyn lleied â £25 y dydd (mae rhai am ddim) felly manteisiwch ar y cyfle hwn.
Mewn diwydiant sy’n datblygu drwy’r amser mae’r angen i newyddiadurwyr a gweithwyr proffesiynol yn y cyfryngau gadw eu sgiliau yn gyfoes yn bwysicach fyth. Yn ogystal â chyrsiau mewn sgiliau cyfryngau craidd mae’r hyfforddiant wedi'i gynllunio i helpu i fodloni gofynion y cyfryngau yn yr oes ddigidol.
Mae'r cyrsiau’n boblogaidd oherwydd eu bod yn cael eu dysgu gan weithwyr proffesiynol y diwydiant sy'n diwtoriaid medrus gyda'r gallu i roi mewnwelediad ymarferol ac amserol i'r dirwedd cyfryngau sy'n datblygu. Yn ychwanegol at hyn, mae'r cyrsiau yn werth gwych am arian ac, ers datblygu'r cyfleuster hyfforddi hwn a leolir yng Nghymru yn 2009, mae’r cyrsiau ar gael ar stepen eich drws. Mae'r cyrsiau yn agored i weithwyr proffesiynol nad ydynt yn aelodau o’r undeb, ond aelodau NUJ sy'n elwa ar y ffioedd isaf. Bydd rhywfaint o hyfforddiant yn cael ei gynnig am ddim i aelodau.