Arbenigo neu Arallgyfeirio?
Mae’r sesiwn yn ôl oherwydd y galw mawr amdano! Dewch i fwynhau diwrnod o rwydweithio proffesiynol a chymdeithasol, a chael syniadau gan newyddiadurwyr profiadol mewn print, ar y teledu, ar y radio ac ar y we ynghylch sut i lwyddo – ac i gynyddu eich incwm.
Ynghylch y digwyddiad hwn
Dyma’r 4ydd Salon i Weithwyr Llawrydd a drefnwyd gan yr NUJ a Hyfforddiant NUJ Cymru yng Nghaerdydd. Mae’n anelu at fynd i’r afael ag anghenion penodol newyddiadurwyr llawrydd – mae’r cyfle i rwydweithio â chomisiynwyr gwaith posibl yn ogystal â chydweithwyr yn nodwedd allweddol.
Mae’r siaradwyr arbenigol yn cynnwys:
Carolyn Hitt, awdur a darlledwr llawrydd Cymreig a chyd-Gyfarwyddwr Parasol Media Cyf
Louise Bolotin, newyddiadurwr, golygydd, darllenwr proflenni ac ysgrifennydd copi sy’n byw ym Manceinion ac sy’n gyn hyfforddwr i’r NUJ a gynhaliodd weithdai “Cyflwyno Syniad a’i Werthu”
Shirish Kulkarni, y Trefnwr Cymunedol newydd yn y Biwro Newyddiaduraeth Ymchwiliol
A diweddariad ar gronfa newyddion llawrydd y BBC gan Sian Collyer o BBC Cymru
Banel: Bydd trafodaeth o dan arweiniad panel hefyd ynghylch “Arbenigo neu Arallgyfeirio?”. Bydd y panelwyr yn cynnwys Andrew Draper, newyddiadurwr, golygydd / cyfieithydd amlieithog, Cyfarwyddwr gyda Nordic International, Natasha Hirst, Ffotograffydd ac Awdur.
Bydd cinio’n cael ei gynnwys, ac mae’n ddiwrnod gwych na ddylid ei fethu!