Datblygiad Proffesiynol Parhaus – Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data
Trosolwg o’r Cwrs
Gweithredwyd y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn Ewrop ar y 25ain o Fai 2018 ac fe’i dyluniwyd i foderneiddio’r cyfreithiau sy’n diogelu gwybodaeth bersonol unigolion. Mae’n hanfodol bod unrhyw gwmni sy’n ymdrin â data defnyddwyr yn sicrhau cydymffurfiaeth â’r Rheoliad.
Mae’n hanfodol bod unrhyw un sy’n ymdrin â gwybodaeth bersonol yn ymwybodol o’r Rheoliad a sut i lynu ato yn eu harferion gweithio. Bydd y cwrs GDPR yn darparu dealltwriaeth well o sut i weithredu ei egwyddorion yn eich gwaith a sut mae’n hyrwyddo hawliau unigolion mewn perthynas â chasglu a rheoli data.