Datblygiad Proffesiynol Parhaus – Atal a Rheoli Heintiau
Trosolwg o’r Cwrs
Mae dealltwriaeth o sut i atal a rheoli lledaeniad heintiau mewn ffordd effeithiol yn hanfodol o ran sicrhau nad yw unigolion, heb yn wybod iddynt, yn peri i’w teulu, ffrindiau, cydweithwyr ac unrhyw bobl eraill y maent mewn cyswllt â nhw fynd yn wael.
Drwy gwblhau’r cwrs hwn, byddwch yn meithrin dealltwriaeth well o sut i atal a rheoli lledaeniad heintiau, yn y gweithle a gartref. Byddwch hefyd yn ennill gwybodaeth am sut i nodi heintiau, yn ogystal â gwahanol fathau o heintiau.