Datblygiad Proffesiynol Parhaus – Egwyddorion Cymunedau Cynaliadwy
Trosolwg o’r Cwrs
Mae cymunedau cynaliadwy yn rhan o duedd sy’n tyfu tuag at fod yn fwy ymwybodol a chyfrifol mewn perthynas â’r amgylchedd, gan gyfuno mwy o fannau gwyrdd gyda ffynonellau ynni mwy ecogyfeillgar.
A ydych am wybod mwy am gymunedau cynaliadwy? Mae’r cwrs hwn yn darparu diffiniad o gymuned gynaliadwy yn ogystal â’u buddiannau lleol a byd eang. Dysgwch sut i greu cymuned gynaliadwy ac am y cymorth sydd ar gael i helpu aelodau cymunedau.