gyda Dan Mason
Beth yw cynnwys y cwrs?
Pennawd, stori, ewch! Bydd y sesiwn Sgiliau Gloi Gwener hon yn dangos i chi sut i lunio syniadau am stori ac ar unrhyw bwnc o’ch dewis chi.
Ar ben hynny, bydd yn eich cynorthwyo i ddewis storïau y mae eich cynulleidfa yn edrych amdanynt (un o sylfeini marchnata cynnwys, ond mae angen sesiwn hwy ar gyfer hynny)
Ar ôl canfod ychydig o ffyrdd hawdd i ganfod pynciau poblogaidd, byddwn yn trafod sut i lunio penawdau grymus, ac yna yn mynd i’r afael â ffurfiau storïau profedig a sicr sy’n boblogaidd ar ffonau symudol ac yn disgleirio ar y cyfryngau cymdeithasol.
I bwy y mae’r cwrs?
Llunwyr cynnwys o bob math a chyda phob lefel o brofiad. Mae croeso i newyddiadurwyr, ond gallai fod yn arbennig o ddefnyddiol i flogwyr a’r rheini sy’n gweithio yn y sectorau elusennol, undebol, newyddion lleol iawn, addysg neu gorfforaethol sy’n gyfrifol am gynnal gwefan heb fawr o adnoddau.
Pa gyfarpar sydd ei angen arnaf?
Gliniadur neu gyfrifiadur desg gyda chyswllt dibynadwy â’r rhyngrwyd a mynediad i Zoom.