gyda Dan Mason
Beth yw cynnwys y cwrs?
Audacity yw’r golygydd sain côd-agored mwyaf poblogaidd am ddim. Mae’n wych ar gyfer podledu neu pan fydd angen i chi docio a sgleinio clip sain. Os ydych chi wedi defnyddio Audacity yn y gorffennol, mae’n bryd edrych eto. Mae diweddariadau diweddar wedi rhoi gweddnewidiad i Audacity ac wedi gwneud rhai newidiadau mawr i’r ffordd y mae offer allweddol yn gweithio.
Bydd y kickstarter awr hwn yn dangos i chi sut i ddechrau arni gydag Audacity, gan gwmpasu hanfodion mewnforio, recordio, tocio ac ychwanegu effeithiau. Bydd Pecyn Cymorth PDF gydag awgrymiadau a thechnegau yn cael ei rannu ar y diwrnod.
I bwy y mae’r cwrs?
Pobl greadigol nad ydynt erioed wedi defnyddio Audacity o’r blaen, a’r rhai sy’n chwilio am gloywi cyflym i ddefnyddio’r offer newydd.
Pa gyfarpar fydd ei angen arnaf?
Gliniadur neu gyfrifiadur gyda chysylltiad rhyngrwyd dibynadwy a mynediad i Zoom gyda meddalwedd Audacity (am ddim ar gyfer PC a Mac o audacityteam.org), wedi’i lawrlwytho a’i osod.