Hyfforddwr – Dan Mason
Am beth mae’r gweithdy?
Mae gan undebau negeseuon pwerus, pwysig i’w cyfleu, ond yn aml gydag adnoddau cyfyngedig.
Bydd y gweithdy hwn yn datblygu technegau ar gyfer creu straeon mewn amrywiaeth o ffurfiau sy’n cydio sylw, annog rhannu ar gyfryngau cymdeithasol… ac arbed amser. Mae’r gwersi’n berthnasol ar draws cynnwys gwefan, ymgyrchoedd, cylchlythyrau a chyfryngau cymdeithasol.
Byddwch yn dysgu sut i ddatblygu syniadau stori ar gyfer unrhyw bwnc ac yna creu straeon diddorol mewn amrywiaeth o ffurf, testun a delwedd sy’n gyfeillgar i ffonau symudol. Gan ddefnyddio offer fel Canva, byddwch chi hefyd yn dysgu sut i greu cynnwys amlgyfrwng gan gynnwys siartiau, carwseli a Storïau, yn barod i’w rhannu ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol.
Nodyn: Nid yw’r gweithdy hwn yn archwilio sgiliau fideo, sy’n cael sylw mewn cyrsiau ar wahân.
Ar gyfer pwy mae’r hyfforddiant?
Gweithwyr Prosiect WULF, swyddogion yr Undeb a chyfathrebwyr sy’n creu cynnwys ar gyfer gwefan neu gyfryngau cymdeithasol. Nid oes angen unrhyw brofiad cyfryngau na newyddiaduraeth.
Beth fyddaf yn ei ddysgu?
Bydd y gweithdy ymarferol hwn yn eich dysgu sut i:
● Cynhyrchu syniadau ffres ar gyfer cynnwys gyda chynulleidfa darged mewn golwg
● Ysgrifennu benawdau cymhellol sy’n tynnu sylw ac yn ysgogi ymgysylltiad
● Creu amrywiaeth o straeon testun, gan ddefnyddio cyfweliadau neu ffynonellau ar-lein
● Dysgu awgrymiadau optimeiddio syml ar gyfer denu darllenwyr trwy chwilio
● Dysgu sut i ddefnyddio Canva ac offer ar-lein eraill i greu straeon gweledol, siartiau a graffeg
● Darganfod a golygu delweddau gan ddefnyddio offer ar-lein
Pa offer fydd ei angen arnaf?
● Gliniadur gyda’r porwr Chrome wedi’i osod.
● Cyfrif am ddim yn Canva.com, wedi’i gofrestru cyn y gweithdy. Argymhellir hefyd
bod cyfranogwyr yn lawrlwytho ap Canva (iOS neu Android) am ddim ar eu dyfais glyfar.
Efallai y bydd angen i chi gofrestru gydag offer ar-lein eraill ar y diwrnod, felly cofiwch gael eich e-bost cyfrinair wrth law.
Mae’r weithdy yma yn cael ei gyflwyno ar y cyd gan TUC Cymru ac Hyfforddiant NUJ Cymru, a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Fformat
Gweithdy wyneb i wyneb yw hwn. Sylwch nad yw ein cyrsiau wedi’u cofnodi. Gweler ein telerau ac amodau llawn yn www.nujtrainingwales.org am ragor o wybodaeth am ein gweithdrefnau archebu, polisi canslo a mwy.