Yn ystod unrhyw argyfwng, mae’n hanfodol cyfathrebu’n glir a chydag argyhoeddiad. Fel y mae’r pandemig Covid-19 wedi ei ddangos i ni, gall sut rydym yn cyfathrebu â’n gilydd fod yn fater o fywyd a marwolaeth. Mae dulliau llywodraethau a sefydliadau sy’n newid yn dangos y gall technegau cyfathrebu gwahanol gael effaith uniongyrchol ar ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd.
Ni waeth pa mor rhagorol rydym yn trefnu, a pha mor drylwyr rydym yn paratoi, byddwn bob tro’n cael ein herio gan yr annisgwyl – digwyddiadau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth. Dyna pryd y mae angen i’n sgiliau arwain a’n cynlluniau cyfathrebu mewn argyfwng ddisgleirio.
Dyluniwyd y cwrs hwn i herio eich barn ynghylch pa ffordd yw’r un orau o ymdrin ag argyfwng. Byddwn yn cwmpasu pwysigrwydd cynllunio a bod yn drefnus; arweinyddiaeth a gonestrwydd; a’r defnydd o iaith a sut i ymdrin â’r cyfryngau. Byddwn yn dysgu ar sail enghreifftiau gwirioneddol a bydd natur ryngweithiol y cwrs yn caniatáu i bobl gydweithio i ddatrys problemau.