Pa un a ydych yn weithiwr llawrydd, wedi eich cyflogi gan gyhoeddwr newyddion neu’n chwilio am waith newydd, mae’n bwysig sefyll allan a sicrhau bod eich persona ar-lein yn gweithio’n galed ar eich rhan.
Fel sy’n wir am unrhyw frand, dylai brand personol adlewyrchu eich diddordebau a’ch gwerthoedd craidd, ac mae wedi’i blethu i mewn i bob gair rydych yn ei ysgrifennu a phob llun rydych yn ei uwchlwytho.
Mae’r cwrs dwy awr hwn wedi’i anelu at unrhyw un sy’n awyddus i ddatblygu eu brand personol eu hunain er mwyn gwneud eu gwaith yn fwy gweledol neu ddeniadol.
I bwy y mae’r cwrs hwn?
Gweithwyr llawrydd, newyddiadurwyr ac unigolion sy’n chwilio am waith.
Ar y cwrs hwn byddwch yn:
Canfod a diffinio eich cynulleidfa.
Llunio cynnig gwerth eglur.
Dysgu sut i gyflwyno eich hunan ar-lein a bod yn chi eich hunan
Canfod goslef eich llais
Canfod apiau a fydd yn eich helpu i greu estheteg eich brand