Gall ysgrifennu copi fod yn yrfa lawrydd broffidiol – ac mae’n gweddu’n arbennig at newyddiadurwyr a gweithwyr cysylltiadau cyhoeddus.
Yn y gweminar hwn dros ddwy awr, bydd Hannah Abbott, y newyddiadurwr sydd bellach yn ysgrifennwr copi, yn dangos ichi sut y gallwch ddefnyddio eich amser yn ystod y cyfnod dan gyfyngiadau symud i ehangu i waith ysgrifennu copi llawrydd – neu hyd yn oed i lansio gyrfa hollol newydd.
I bwy y mae’r cwrs?
Newyddiadurwyr a gweithwyr cysylltiadau cyhoeddus a marchnata sydd â diddordeb mewn dod yn ysgrifennwr copi llawrydd.
Byddwch yn dysgu:
- Pam mae bod yn ysgrifennwr copi yn ddewis gwych
- Sut y mae ysgrifennu copi yn wahanol i newyddiaduraeth – a sut y gallwn ddefnyddio ac addasu’r sgiliau ysgrifennu sydd gennych eisoes er mwyn llwyddo
- Pethau ymarferol y gallwch eu gwneud yn ystod y cyfnod dan gyfyngiadau symud i ddechrau gweithio fel ysgrifennwr copi (ac ennill arian hyd yn oed)
- Fy nghamgymeriadau mwyaf wrth ddechrau arni (fel nad ydych chi’n eu gwneud hefyd!)
- Gwybodaeth hanfodol am y busnes o fod yn ysgrifennwr copi llawrydd, gan gynnwys sut i gael hyd i gleientiaid, sut i bennu eich cyfradd ddyddiol a sut i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich talu.
- Adnoddau a fydd yn eich helpu i ddod yn eich blaen a chael cymorth.
Byddwch yn gadael gydag…
Awgrymiadau ymarferol, camau y gellir eu gweithredu, yr hyder i fynd amdani.