Hyfforddiant ynghylch Ymwybyddiaeth o Drawma ar gyfer Newyddiadurwyr a Gweithwyr Cyfathrebu
A ydych chi’n weithiwr proffesiynol sy’n ymwybodol o drawma? Mae’r cwrs hyfforddi rhyngweithiol tair rhan hwn, a ddatblygwyd ac a ddarperir gan Jo Healy, cyn newyddiadurwr y BBC, yn ganllaw cynhwysfawr ar weithio gyda phobl sydd wedi profi trawma. Mae Healy yn rhoi teuluoedd sy’n galaru, dioddefwyr a goroeswyr wrth galon ei gwaith, ac mae ei mantra ‘Gwnewch eich gwaith, gwnewch ef yn dda, peidiwch â pheri niwed’ yn sicrhau bod llesiant gohebyddion wrth galon yr hyfforddiant hefyd.
Mae Hyfforddiant NUJ Cymru wedi darparu fersiwn gynnar o’r cwrs hwn y llynedd, ac rydym wrth ein boddau ein bod ymysg y darparwyr hyfforddiant cyntaf i gynnig y cwrs wedi’i ehangu ac sydd newydd gael ei achredu gan y CPD. Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd y cyfranogwyr yn derbyn Tystysgrif CPD fel gweithwyr proffesiynol sy’n ymwybodol o drawma. Darperir y cwrs mewn modiwlau sesiynau sengl ar dri bore Mercher yn olynol.
I bwy y mae’r cwrs?
A ydych yn teimlo’n hyderus yn adrodd ynghylch dioddefwyr, goroeswyr, pobl sy’n ofidus, sy’n galaru neu sy’n mynd drwy amser caled yn emosiynol? Beth yw bod yn sensitif a dangos parch ym marn y rheini rydych yn cyfweld â nhw, o bosibl? A ydych yn teimlo bod gennych y sgiliau i ymdrin â nhw a’r effaith emosiynol posibl ar eich llesiant?
- Pob math o lunwyr cynnwys gyda phob lefel o brofiad o weithio ar bob llwyfan: newyddiadurwyr, cynhyrchwyr, ymchwilwyr, golygwyr, cynhyrchwyr cynnwys, gweithiwr proffesiynol cyfathrebu, gweithwyr cysylltiadau cyhoeddus, cynhyrchwyr cynnwys y cyfryngau cymdeithasol
- Gweithredwyr camera, cyfarwyddwyr a gwneuthurwyr ffilmiau gyda phob lefel o brofiad
- Pobl sy’n gweithio ar newyddion, rhaglenni dogfen a rhaglenni ffeithiol sy’n cyfweld â phobl sy’n fregus yn emosiynol.
- Cyfathrebwyr, yn enwedig y rhieni sy’n gweithio yn y trydydd sector, er enghraifft, sy’n cyfweld â phobl sy’n fregus yn emosiynol
Beth y byddwch chi’n ei ddysgu?
Yn aml, gallwn fod yn gweithio gyda dioddefwyr, goroeswyr a chyfranwyr sydd mewn poen. Pan wneir y storïau hyn yn dda, gallant gael effaith a bod yn werthfawr. Bydd pob sesiwn ar-lein byw yn eich caniatáu i:
-
- ddod yn ymwybodol o drawma
- cael eich grymuso gyda sgiliau y byddwch yn gwybod eu bod yn arferion da
- dysgu technegau priodol ar gyfer cysylltu â phobl, meithrin perthnasoedd, eu cyfweld, ffilmio â nhw, ysgrifennu amdanynt a dilyn eu storïau sensitif.
- gwrando ar yr hyn y mae’n bosibl y bydd y rheini rydych yn cyfweld â nhw ei angen ganddoch drwy glipiau fideo gyda phobl a siaradodd â newyddiadurwyr ar adegau caled yn eu bywydau. Maent yn rhannu’r hyn a helpodd a’r hyn a barodd niwed.
- rhannu eich profiad, eich arbenigedd a’ch arsylwadau.
- edrych ar ôl eich hunan wrth ichi weithio ar storïau sy’n anodd yn emosiynol.
Amlinelliad o’r cwrs:
Mae pob sesiwn yn rhyngweithiol ac yn cynnwys clipiau sain o rieni a phlant sy’n galaru, llygad-dystion a goroeswyr camdriniaeth sy’n dioddef o drawma. Gwnaethant oll rannu eu storïau gyda newyddiadurwyr ac maent yn cynnig cyngor adeiladol a mewnwelediad pwerus. Mae hefyd wedi’i hysbysu gan yr arbenigwr a’r clinigwr trawma, yr Athro Stephen Regel. Mae pob sesiwn yn caniatáu amser am ryngweithiadau chat box, trafodaeth a sesiwn holi ac ateb.
Gohebu ynghylch Trawma/Modiwl 1 (TR1) – 30ain Mehefin 10:00 – 12.30
- Y chwe egwyddor allweddol o ohebu ynghylch trawma a sut i’w rhoi ar waith
- Beth yw trawma/digwyddiad sydd o bosibl yn un trawmatig?
- Gwneud pethau’n iawn o’r cychwyn. Meithrin perthnasoedd proffesiynol gyda chyfranwyr
- Ymwybyddiaeth ynghylch profedigaeth drawmatig, gan gynnwys marwolaethau sy’n gysylltiedig â Covid
- Cyfweld sensitif, wyneb yn wyneb ac o bell. Pa gwestiynau i’w gofyn, a pha rai i beidio â’u gofyn. Sut i ymdrin â’ch cyfranwyr drwy gydol y broses a pham y mae hynny’n bwysig
- Hunanofal: beth i edrych allan amdano, beth i’w wneud yn ei gylch, sut i warchod eich hunan, meithrin gwytnwch
Gohebu ynghylch Trawma/Modiwl 2 (TR2) – 7fed Gorffennaf 10:00 – 12.30
- Cysylltu â phobl ar adegau anodd
- Pam rydym yn cysylltu â phobl a pham bod pobl yn dewis siarad â ni
- Dilyn storïau sensitif pobl: gan gynnwys ailymweld â phennau blwyddi, achosion llys, cwestau, apeliadau heddlu, diwrnodau coffa, ac ati
- Ymwybyddiaeth o drawma: ymatebion posibl y bobl yn y fan a’r lle, yn syth ar ôl y digwyddiad ac yn ddiweddarach. Adrodd ynghylch Anhwylder Straen Wedi Trawma a gwella ohono.
- Julian Worriker yn siarad am gyfweld ‘byw’ sensitif
- Gwneud camgymeriadau. Hefyd, Louis Theroux ynghylch wynebu dilemâu
- Jeremy Bowen, Golygydd y Dwyrain Canol ynghylch edrych ar ôl eich hunan a’ch cyfranwyr
- Ac anadlwch… ymarfer ‘anadlu’r darlledwyr’.
Gohebu ynghylch Trawma/Modiwl 3 (TR3) – 14eg Gorffennaf 10:00 – 12.30
- Ymwybyddiaeth o drawma ac awgrymiadau ymarferol wrth weithio gyda grwpiau penodol o bobl:
- Gweithio gyda’r rheini sydd wedi goroesi trais a chamdriniaeth rywiol
- Ffilmio dienw
- Sefydlu ffiniau proffesiynol iach
- Ysgrifennu a fframio storïau sensitif gan gynnwys cam-drin domestig, hunanladdiad, cam-drin plant yn rhywiol
- Awgrymiadau ynghylch adrodd am iechyd meddyliol pobl
- Gweithio gyda phlant
- Gohebu ynghylch profedigaethau trawmatig
- Ffilmio gyda phobl. Ystyriaethau allweddol
- Hunanofal: rheoli gorbryder a straen, yr hyn y gallwch ei reoli a’r hyn na allwch ei reoli
Rhaid i chi fynychu pob un o’r tri modiwl byw er mwyn ennill y cymhwyster CPD.
Os ydych yn credu y byddai eich cydweithwyr neu eich gweithle yn cael budd o’r hyfforddiant hwn, cysylltwch â ni i drafod sut y gallwn ni weithio gyda’ch cyflogwr i’w ddarparu.