Rhoi newyddion drwg, siarad yn erbyn doethineb a dderbynnir, a dweud wrth ein cleientiaid a’n penaethiaid eu bod wedi gwneud camgymeriad – dyma rai o’r sgyrsiau anoddaf a gawn yn ein bywyd gwaith. Ond, mae sgyrsiau anodd yn cadw sefydliadau rhag methu. Mae ein parodrwydd – a’n gallu – i ddweud y gwir wrth bobl mewn grym yn ein gwneud yn gydweithwyr mwy gwerthfawr, ac yn aelodau mwy gwerthfawr o gymdeithas. Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn cwmpasu sut y gallwn ni wneud hyn yn hyderus, ac i gael effaith.
Dosbarth meistr hanner diwrnod: Beth a gewch chi allan o’r dosbarth meistr?
Gan weithio gyda chyn Uwch Brif Gynghorydd yn Llywodraeth Cymru, byddwch yn:
- Dysgu technegau i gyfleu negeseuon anodd yn effeithiol
- Gweithio gyda chyfranogwyr eraill i ddatrys senarios gwirioneddol
- Ystyried sut i ddatblygu ein priodweddau arweinyddiaeth