Mae gwaith ymchwil a wnaed gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth wedi dangos bod gwella eich sgiliau hyfforddi a mentora yn helpu i’ch gwneud yn arweinydd gwell ac yn rheolwr mwy effeithiol. Yn gyffredinol, nid oes gan reolwyr llinell a chynghorwyr y sgiliau i hyfforddi a mentora; nid oes ganddynt y wybodaeth, y sgiliau, yr hunanhyder na’r profiad.
Ynghylch y cwrs
Bydd y cwrs pedair rhan hwn yn eich arwain drwy bwyntiau sylfaenol arferion da mewn hyfforddi a mentora ac yn arwain at gymhwyster gyda’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
Mae’r rhaglen yn cynnwys 4 o sesiynau hanner diwrnod a sesiwn diwtora, a ddarperir ar-lein. Mae’n ymarferol ac yn rhyngweithiol, sy’n sicrhau eich bod yn deall y theori a bod gennych gyfle i roi eich sgiliau ar waith.
Wedi i chi gwblhau 6 awr arall o hyfforddi a mentora yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn tystysgrif wedi’i gymeradwyo gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
Pwy ddylai wneud cais am y cwrs?
- Cyflogeion yn y cyfryngau sydd â rôl mentora neu sy’n arwain timau bach neu fawr (o staff a/neu weithwyr llawrydd) o fewn eu sefydliadau
- Gweithwyr yn y cyfryngau y mae disgwyl iddynt feithrin a hyfforddi staff newydd neu reoli gweithwyr llawrydd
- Arweinwyr tîm sy’n arwain eu timau drwy newidiadau (e.e. addasu i weithio gyda llai o staff oherwydd toriadau, arwain timau ar draws adrannau sy’n dod ynghyd, gweithio mewn amgylchedd lle y mae toriadau’n cael eu gwneud, ac ati)
- Cyflogeion yn y cyfryngau sy’n dymuno symud i fyny’r ysgol sefydliadol neu a hoffai gael hyfforddiant fel rhan o’u datblygiad proffesiynol parhaus
- Cyflogeion neu weithwyr llawrydd sydd wedi derbyn hyfforddiant mewn arweinyddiaeth a rheoli ond nid mewn mentora a hyfforddi
- Gweithwyr llawrydd sy’n dymuno cael eu cyflogi neu ailddechrau arni ac sy’n dymuno ehangu eu sylfaen sgiliau
- Gweithwyr llawrydd sy’n dymuno mentora a meithrin gweithwyr llawrydd eraill, gan drosglwyddo eu profiad (gall hyn gynnwys gweithwyr iau yn y cyfryngau sy’n wybodus am y cyfryngau cymdeithasol neu dechnoleg a allai helpu a meithrin gweithwyr hŷn drwy’r broses ddysgu).
- Aelodau cangen yr NUJ sy’n gallu mentora aelodau newydd sy’n aml yn iau sydd weithiau’n dod i gyfarfodydd i ofyn am help.
Mae cymhorthdal uchel ynghlwm wrth gost cael lle ar y rhaglen:
(Mae’r pris arferol ar gyfer y cwrs hwn a gymeradwyir gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn dechrau ar £475 y person)
Bydd y rhaglen yn ymarferol iawn a bydd yn caniatáu i bob cyfranogwr ymarfer y sgiliau sydd eu hangen arnynt i fod yn fentor a hyfforddwr effeithiol.