Cwrs 2 ddiwrnod – Cyfraith y Cyfryngau gyda David Banks
Diwrnod 1
Cyflwyniad/cwrs gloywi ar gyfraith y cyfryngau sy’n cwmpasu’r pynciau a ganlyn:
- Enllib
- Athrod
- Anwiredd Maleisus
- Dirmyg Llys
- Cyfyngiadau ar adrodd ynghylch Llysoedd Ynadon
- Cyfyngiadau ar adrodd ynghylch llysoedd plant ac ieuenctid
- Cwestau
- Mynediad i’r llysoedd a herio gorchmynion llys
- Cyfreithiau sy’n ymwneud â throseddau rhywiol
- Preifatrwydd a chyfrinachedd
- Diogelu Data
- Hawlfraint
- Y cyfryngau cymdeithasol
- Codau moesegol ar gyfer newyddiadurwyr print a darlledu
Diwrnod 2
Mae hwn yn weithdy sy’n adeiladu ar Ddiwrnod 1 a bydd yn cael ei rannu’n ddau. Darlledu yn y bore a phrint ac ar-lein yn y prynhawn.
Bydd yr ymgeiswyr yn gweithio’n unigol ac mewn grwpiau i fynd i’r afael â chyfres o sefyllfaoedd sy’n cynyddu mewn cymhlethdod, yn cynnwys agweddau amrywiol ar y gyfraith a moesoldeb.
Ar ddiwedd pob sefyllfa, bydd ôl-drafodaeth mewn grŵp i archwilio’r materion cyfreithiol yn fanwl.
Nod y diwrnod yw galluogi’r rheini sy’n mynychu’r cwrs i roi’r gwersi a ddysgwyd ar ddiwrnod un ar waith mewn sefyllfaoedd ‘gwirioneddol’, a fydd yn gwella eu sgiliau gwneud penderfyniadau mewn amgylchedd cyfryngau cymhleth sy’n symud yn gyflym.
Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal am 9.30-12.30yp a 1.30-4.30yp.
Ynghylch yr hyfforddwr – David Banks. Mae David yn newyddiadurwr gyda 24 mlynedd o brofiad ac mae’n cynnal cwrs Hyfforddiant NUJ Cymru ar Gyfraith a Moesoldeb y Cyfryngau. Mae’n ymgynghorydd ar y cyfryngau sy’n darparu hyfforddiant i amrywiaeth o gyfryngau cenedlaethol a rhanbarthol, cyrff anllywodraethol, llywodraethau, elusennau, cwmnïau cysylltiadau cyhoeddus, prifysgolion a’r heddlu. Mae’n hyfforddwr sydd wedi llunio a rheoli cyrsiau llwyddiannus mewn newyddiaduraeth, cyfraith y cyfryngau a newyddiaduraeth gynhyrchu.
Ef oedd cyd-awdur y 18fed, 19eg ac 20fed cyfrol o McNae’s Essential Law for Journalists. Mae’n ysgrifennu’n rheolaidd am y gyfraith a’r cyfryngau yn The Guardian, The Mirror a The Independent. Mae’n cyfrannu’n aml ar raglenni teledu a radio’r BBC.