Mae’r sesiwn gloywi hwn wedi’i anelu at ymgeiswyr mwy profiadol sydd eisiau diweddaru eu gwybodaeth gyfredol ynghylch cyfraith y cyfryngau.
Bydd y sesiwn 3 awr hon ar-lein yn edrych ar y datblygiadau diweddaraf yn y cyfreithiau sy’n effeithio ar newyddiadurwyr sy’n gweithio ar-lein, mewn print neu yn y cyfryngau darlledu.
Bydd y sesiwn yn cwmpasu:
- Enllib
- Dirmyg
- Preifatrwydd, cyfrinachedd a diogelu data
- Cyfyngiadau gohebu yn y llysoedd
- Troseddau rhywiol
- Hawlfraint
- Moeseg y cyfryngau a chyrff gwarchod
Bydd y sesiwn hon yn cynnwys cyflwyniad a gweithdy byr gyda digon o gyfleoedd i drafod materion neu bryderon unigol.
Bydd sleidiau a nodiadau ategol ar gael i’r rheiny sy’n mynychu ar y diwrnod.
Gwybodaeth arall
Rydych ond yn gymwys i gofrestru ar gyfer y cwrs hwn os ydych yn byw ac yn/neu’n gweithio yng Nghymru oherwydd mae wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Os ydych yn aelod o’r NUJ ac rydych wedi colli eich swydd yn ystod y chwe mis diwethaf, neu os ydych yn wynebu colli eich swydd, mae gennych hawl i gael dau ddiwrnod o hyfforddiant am ddim. Cysylltwch â ni i gael rhagor o fanylion.