Cwestiwn ac Ateb gyda’r Newyddiadurwr Llawrydd, Jamie Carter (TravGear.com)
Newyddiadurwr teithio a thechnoleg llawrydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd yw Jamie. Er iddo ddechrau ei yrfa newyddiadurol yng Nghaerdydd ym 1997, bu raid iddo symud i Lundain er mwyn datblygu ei yrfa. Fodd bynnag, wedi iddo greu llawer o gysylltiadau yn y DU ac o gwmpas y byd, llwyddodd i ddychwelyd i Gaerdydd yn 2007 i weithio’n gyfan gwbl fel newyddiadurwr llawrydd. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio i bapurau newydd yn y DU a Tseina, i gylchgronau amrywiol a gynhyrchir ym Mryste a dwsinau o wefannau. Mae’n cynnal gwefan a ddatblygwyd yn llwyr drwy gyfrwng cwrs Hyfforddi NUJ Cymru (TravGear.com), ac ar hyn o bryd, mae’n ysgrifennu llyfr ar syllu ar y sêr (gan ddefnyddio Bannau Brycheiniog fel man syllu).
Sut mae tirwedd y cyfryngau wedi newid yng Nghymru yn eich barn chi?
Mae newyddiadurwyr yng Nghymru, ac yn arbennig yng Nghaerdydd, yn wirioneddol angen buddsoddiad a hyfforddiant parhaus, er lles y genedl. Er fy mod wedi gweithio fel newyddiadurwr yng Nghymru am ragor na degawd i gyd, bu’n amser hir er pan oeddwn yn gweithio i’r cyfryngau yng Nghaerdydd. Mae hyn yn gyfan gwbl oherwydd mai prin iawn yw’r swyddi sydd ar gael yn y cyfryngau, ac mae’r diwydiant ar drai i bob golwg. Rwy’n adnabod llawer o newyddiadurwyr, tra hyfforddedig ac fel arall, sydd wedi gadael am Lundain yn ddiweddar. Yn bersonol, rwy’n credu bod cyflwr diwydiant y cyfryngau yng Nghymru yn fygythiad uniongyrchol i unrhyw hawl ar genedligrwydd. Ni ellir galw gwlad yn wlad os nad oes ganddi ddiwydiant cyfryngau ffyniannus ….ceir diwydiant y cyfryngau gwell ym Mryste hyd yn oed.
Pa gyrsiau Hyfforddi NUJ Cymru rydych chi wedi’u dilyn?
- Ysgrifennu ar gyfer y We
- Sut i greu eich gwefan eich hun
- Diwrnod 1 Saethu/Golygu gyda iPhone
- Diwrnod 2 Saethu/Golygu gyda iPhone
Beth a’ch ysgogodd i ddilyn y cyrsiau?
Ysgrifennu ar gyfer y We
Bellach, gydag ysgrifennu ar gyfer y we yn meddiannu y rhan fwyaf o newyddiaduraeth, roedd y cwrs dau ddiwrnod yma’n hanfodol i mi. Roedd e’n gwrs arbennig o ymarferol a llwyddodd yn fedrus i ddadansoddi rhai o’r technegau cyffredin mae gwefannau’n eu defnyddio i ddenu sylw darllenwyr posibl. Roedd yn ymdrin â ‘chrefft dywyll’ ysgrifennu ar gyfer gwefannau, brolio syniadau iddyn nhw, ac yn cyflwyno tasgau cynllunio, ysgrifennu a marchnata yn dameidiau llai. Roedd fy mhen yn llawn syniadau, rhai ohonynt wedi esgor ar lwyddiant ac eraill yn parhau i gael eu datblygu gennyf.
Sut i greu eich gwefan eich hun
Gan fod y rhan fwyaf o’m gwaith newyddiadurol wedi mudo o brint i ar-lein yn ystod y pum mlynedd diwethaf, daeth creu fy ngwefan fy hun yn uchelgais naturiol. Fodd bynnag, doedd gen i ddim gronyn o hyder yn fy ngallu fy hun i gyflawni hyn. Llwyddodd y gweithdy dau ddiwrnod hwn i newid hynny. Mae cychwyn gwefan newydd yn hynod o anodd, o ran amser, ymdrech a brwdfrydedd. Eglurodd y tiwtor sut i ddefnyddio WordPress er mwyn dylunio gwefan syml, a ddefnyddiais yn sail ar gyfer fy ymdrech lwyddiannus, broffesiynol. Hefyd, profodd y cyngor a gefais ar hybu postiadau ar y cyfryngau cymdeithasu yn allweddol i’w llwyddiant.
Diwrnod 1 a 2 Saethu/Golygu gyda iPhone
Mae’r we’n symud yn gynyddol o brint i fideo, felly mae dysgu sut i gymryd y cam hwnnw mewn cwrs dau ddiwrnod byr eisoes yn profi’n amhrisiadwy. Mae hwn yn gwrs blaengar – maen nhw’n brin iawn yn y DU (fe’u ceir yn Llundain yn bennaf) ac mae eu cost y tu hwnt i boced y rhan fwyaf o newyddiadurwyr, yn arbennig os ydyn nhw’n gweithio yng Nghymru lle mae cyflogau gryn dipyn yn is na chyflogau Llundain.
Nid yn unig imi gyfarwyddo dipyn mwy galluoedd anhygoel fy iPhone fel teclyn gohebu, ond hefyd cefais gipolwg ar sut mae newyddiadurwyr darlledu’n rhoi eu pecynnau at ei gilydd. Bydd hyn yn ddefnyddiol iawn oherwydd rwy’n bwriadu cynhyrchu adolygiadau fideo ar gyfer fy ngwefan fy hun.
Ydych chi’n parhau i elwa o’r hyfforddiant…fisoedd neu flynyddoedd ers i chi ddilyn y cyrsiau?
Ysgrifennu ar gyfer y We: Llwyddodd y cwrs yma i wneud i mi fwrw syniadau newydd sbon am erthyglau, ysgrifau nodwedd a thriniaethau ar gyfer gwefannau nad oeddwn wedi brolio syniadau iddyn nhw o’r blaen. Bellach, rwy’n gallu brolio, crynhoi a pherthnasu fy syniadau’n well i olygyddion comisiynu ledled y byd, ac, yn ddi-os, rwy’n cael mwy o waith ac mae fy incwm wedi codi ers dilyn y cwrs hwn. Hefyd, bu’n gymorth i sicrhau llwyddiant fy ngwefan, TravGear.com.
Sut i greu eich gwefan eich hun: Ers creu gwefan ffug yn ystod y cwrs byr hwn ym Mawrth 2014, aeth TravGear.com yn fyw bron yn syth a bellach mae’n wefan lwyddiannus. Wedi rhai misoedd yn unig, ymwelodd 10,000 o bobl â hi yn fisol.
Diwrnod 1 a 2 Saethu/Golygu gyda iPhone: Er mai ond newydd gwblhau’r cwrs hwn ydw i, dwi’n brysur yn cynllunio i newid fy ngwefan o Destun Plaen i adolygiadau fideo addysgol; dyma ddyfodol y We, ac mae’n bwysig fod newyddiadurwyr yng Nghymru yn cymryd rhan.